|
Cymunedau'n Gyntaf Amlwch |
|||
|
Gwanwyn 2008 Issue 14
|
![]() |
![]() |
![]() |
|
ESTYNIAD I BROSIECT SGILIAU |
|
||
|
Mae Partneriaeth Adfywio Amlwch yn falch o gael cyhoeddi bod nawdd ychwanegol wedi ei sicrhau i alluogi Prosiect Sgiliau Amlwch 16+ i gario ymlaen hyd Rhagfyr 2008. Mae’r prosiect llwyddiannus hwn yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 16 – 24 yn cael ei ail-lawnsio yn ystod Diwrnod Agored Hyfforddiant Parys ar yr 21ain o Fai.
Nod y prosiect yw cefnogi pobl ifanc i ennyn y sgiliau sydd ei angen er mwyn sicrhau cyflogaeth. Am fwy o wybodaeth am y Prosiect 16+, ac i gofrestru ar gyfer y hyfforddiant, dewch i’r diwrnod agored neu cysylltwch a’r Ganolfan Hyfforddi ar 01407 832997.
Mae Staff y Barteriaeth hefyd yn gweithio a nifer o gyfundrefnau ac asiantaethau i baratoi, datblygu a chyflwyno ceisiadau ar gyfer nawdd. |
|||
|
Sgiliau Bywyd Sylfaenol
|
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, cysylltwch a Swyddfa Cymunedau’n Gyntaf ar 01407 832893 / 01407 839072 neu galwch i fewn i’r swyddfa! |
||
|
Nachos, Pizzas, Smoothies, Fflapjacs, Teisenau Brau, Ail-gylchu Crefftau, Iechyd a Lles, Cymorth Cyntaf, HWYL!
Mae’r Prosiect Sgiliau Bywyd Sylfaenol wedi ei ddatblygu gan Cymunedau’n Gyntaf i roi hwb i hyder, hunan barch a sgiliau bywyd sylfaenol y bobl ifanc sy’n mynychu. Mae’r prosiect yn mynd o nerth i nerth gyda o gwmpas 25 o bobl ifanc yn mynychu’n wythnosol
Hyd yn hyn mae’r cyfranogwyr wedi ennyn tystysgrifau mewn Cymorth Cyntaf a Diogelwch Tân yn y Cartref, cwrs yoga, dysgu sut i gwnio a gwau, a gwneud blancedi ar gyfer plant yn Sankwia, Gambia. Mae’r prosiect hefyd yn darparu y cyfle i ddatblygu sgiliau coginio, yn enwedig coginio ar gyllideb isel.
Cyfarfu y prosiect yn Sbri Mon pob Dydd Llun am 3.45yp.
|
Grwpiau Cymunedol yn Sicrhau Grantiau Gyda chefnogaeth staff Cymunedau’n Gyntaf, mae’r grwpiau canlynol wedi sicrhau nawdd ar gyfer eu prosiectau: Grwp Iechyd a Chwareon Ieuenctid Amlwch wedi sicrhau £4600 gan Arian i Bawb Cymru ar gyfer offer trampolînio; £1000 wedi ei sicrhau ar gyfer Cynllun Cae Chwarae i gynnal yr offer chwarae ym Mharc Lon Goch; £3000 wedi ei sicrhau gan Gronfa Ymddiriodolaeth Cymunedau’n Gyntaf gan y Sgowtiaid i adnewyddu Cwt y Sgowtiaid; mae’r Clwb Snwcer wedi sicrhau £3500 gan Gronfa Ymddiriodolaeth CG tuag at y gost o ynysu a nenfwd newydd a £1000 o’r Gist Gymunedol tuag at y gost o orchuddio tri o’r byrddau snwcer; £1000 wedi ei sicrhau gan bwyllgor y Gŵyl Gopr gan Gronfa Ymddiriodolaeth Cerdd CG i drefnu noson codi arian (Gŵyl Gopr Fach); Gŵyl Llychlynwyr Amlwch wedi sicrhau £1000 gan Gronfa Ymddiriodolaeth Gerdd tuag at eu digwyddiad ym mis Awst. Llongyfarchiadau i’r holl grwpiau a phob lwc gyda’r prosiectau! |
||
|
Camau Cyntaf Daeth y Flwyddyn Newydd a rheolwraig newydd i’r feithrinfa - Mrs Helen Woodcock. Cyn hyn, roedd Helen yn gweithio yn Ysgol Gynradd Amlwch yn y dosbarth meithrin. Os ydych eisiau gwybodaeth bellach, neu os ydych eisiau eich plentyn gael gofal yn y feithrinfa, cysylltwch a’r rheolwraig ar 01407 832579, mae’r feithrinfa ar agor Ddydd Llun i Ddydd Gwener 8yb-6yh.
|
Clwb Bowlio dros 50 I’r rhai ohonoch sydd a diddordeb mewn cael hwyl a gwneud ffrindiau – mae clwb bowlio dan do wedi ei sefydlu yn y Neuadd Goffa, yn cyfarfod pob Dydd Llun rhwng 1 a 3yp. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a John Pritchard (Pencampwyr yn y Gymuned) ar 07831 510262 |
Prosiect Bysedd Gwyrdd Mae’r bobl ifanc o flwyddyn chwech Ysgol Gynradd Amlwch wedi bod yn brysur yn planu yn Swyddfa CG. Yn ychwanegol i’r blodau, tatws, moron, nionyn, radis a’r letysen, mae’r grwp wedi cymeryd toriadau o amryw o berlysiau i dyfu ei hunain i’w gwerthu hwyrach ymlaen. Gobeithiwn drefnu bore coffi ar ddiwedd y tymor, i roi cyfle i rieni, teulu a ffrindiau brynu rhai o’r planhigion a’r llysiau. |
|
|
ATAL Y WASG! Mae Shelby, Tywysoges Elusennol Rehau yn trefnu noson twrch gyda cerddoriaeth fyw yn y Dinorben ar y 30ain o Fai. Yr elw yn mynd tuag at Glwb y Gorlan. Ticedi £7 ar gael o Y Crystyn Aur, Dinorben, Corwas a Dorringtons. |
Cyfeillion Sankwia Friends Hoffai’r ymddiriedolwyr gymeryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gefnogwyd yr Arwerthiant Elusenol ym mis Ebrill, unai drwy gyfrannu eitemau, helpu gyda’r trefnu neu bod yno’n cynnig ar y noson! Hefyd hoffant ddiolch i’r Arwerthwyr Morgan Evans am ei hamser a’i cefnogaeth. Cafodd £4550 ei godi ar y noson. Diolch yn Fawr. |
Dewch allan am Ginio! Mae Clwb Cinio Amlwch yn cyfarfod ar yr ail Ddydd Mawrth o pob mis yng Ngwesty’r Dinorben Arms; Clwb Cinio Porth Llechog yn cyfarfod ar y trydydd Dydd Mawrth o’r mis yng Ngwesty’r Trecastell.
Mae’r ddau glwb yn cyfarfod am 12.30yp am bryd a sgwrs, weithiau bydd siaradwr gwadd. Prydau yn costio mor isel a £5 yr un, croeso i bawb! Gweithgareddau eraill yn cynnwys tripiau a ymweliadau cyfunol, gyda Thrip Dirgel wedi ei drefnu’n fuan, a tripiau i’r theatr wedi ei trefnu ar gyfer yr hydref. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Swyddfa CG. |
Ddim yn gweithio, magu plant ar ben eich hun, rydym yn gwybod y gallai fod yn anodd.
Os buasech yn hoffi cyngor a chefnogaeth dewch i gael sgwrs.
Ffoniwch Working Links ar 01407 839372 / 01248 751540 neu galwch Bernie ar 07967 250 334 am fwy o wybodaeth. |
|
Gŵyl Gopr 2008
Cynhaliwyd Gŵyl Gopr Fach yn y Neuadd Goffa Nos Sadwrn y 26ain o Ebrill gyda disco am ddim i’r plant yn y prynhawn, yn cael ei ddilyn gan fandiau Cymraeg lleol yn ogystal a bandiau adnabyddus yn ystod y nos. Transit, band ifanc, lleol yn canu amryw o’i caneuon ei hun yn y Gymraeg a’r Saesneg; Bootnic, band lleol sydd wedi ei sefydlu yn rocio’r neuadd gyda’i set brwdfrydig – cerddoriaeth roc galed ar ei orau. Brigyn, dau frawd gyda gitar ac allweddellau; Gwibdaith Hen Fran, band roc gwerin pum darn a ddiddanwyd y dorf wrth ddod a chwerthin gyda’r profocio rhyngddynt a’r dorf; gorffennodd y noson ar nodyn uchel, gyda perfformiad disglair gan Elin Fflur
Mae’r Gŵyl Gopr Fawr yn cymeryd lle ym Mhorth Amlwch yn ystod Penwythnos Gŵyl y Banc Mis Awst 22ain-23ain. Gyda nifer o fandiau wedi ei cadarnhau yn barod, mae’r pwyllgor yn gweithio’n galed i lwyfannu Gŵyl Gopr fwy a gwell – gwyliwch y gofod! Ewch i www.gwylgopr.co.uk am fwy o wybodaeth. |
Elin Fflur gefn llwyfan cyn disgleirio’r dorf yn y Neuadd Goffa
|
Transit,
Band o Amlwch cyn eu perfformiad yn y Gŵyl Gopr Fach.
|
|
|
Brwydr y Bandiau –
A ydych ddigon da i chwarae yn yr Ŵyl Gopr? Ydych eisiau ennill diwrnod mewn stiwdio recordio? Rownd derfynol yw chynnal yn y Neuadd Goffa Sadwrn 16ain o Awst.
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch carlievans@amlwchcf.org erbyn y 4 Orffennaf. |
Wylfa B Beth yw eich sylwadau ar Wylfa B?
A ydych o blaid neu yn erbyn datblygiad pellach?
A wnaiff fudd i’r economi leol?
Ysgrifenwch atom: Wylfa B, Cymunedau’n Gyntaf, Syddfa’r Cyngor Tref, Lon Goch, Amlwch, Ynys Mon, LL689E
|
Clwb Garddio’r Gampfa Werdd Mae Ymddiriedolwyr y Neuadd Goffa wedi sicrhau nawdd gan ‘Energy Solutions’ i ffensio ar hyd terfyn gardd y Neuadd. Mae’r ffensio yn rhan o’r trydydd cyfnod o adnewyddu, sydd hyd yn hyn wedi gweld dros £500mil (Cyfnod 1 a 2) wedi ei wario ar yr adeilad. Mae ceisiadau pellach wedi ei cyflwyno i sicrhau nawdd ar gyfer datblygu Clwb Garddio’r Gampfa Werdd. Dylai unrhyw un sydd a diddordeb o ymuno, neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Swyddfa CG.
|
Gŵyl Bysgota Cychod Bychain Cymru Bydd Gŵyl Bysgota Cychod Bychain Cymru unwaith eto yn darparu penwythnos o hwyl a physgota cystadleuol o amgylch arfordir gogledd-ddwyrain Môn. Bydd y digwyddiad wedi ei leoli ym Mhorth Amlwch o Fehefin 26ain – 28ain. Am fwy o wybodaeth am yr Ŵyl ewch draw i’n safle gwe www.wsbff.co.uk neu cysylltwch a Carli ar 01407 832 893
Roedd yr Ŵyl yn llwyddiant mawr y flwyddyn diwethaf, gyda bron i 50 o genweiriwr yn cymeryd rhan. Rydym yn gobeithio yn 2008, byddwn yn gallu adeiladu, a datblygu’r Ŵyl i ddod yn ddigwyddiad adnabyddus yn genedlaethol.
Yn ychwanegol i’r Ŵyl ei hun, mae’r trefnwyr hefyd yn trefnu nosweithiau hyfforddiant i’r bobl ifanc yn ystod hanner tymor sy’n ymwneud a chlybiau ieuenctid CF; a disco i bobl ifanc yn y Neuadd Goffa ar Ddydd Gwener y 30ain o Fai rhwng 6-8yh. bydd y disco ar agor i bawb ac bydd mynediad yn £1.50. Bydd bwyd ar gael yn ogystal.
|
|
Partneriaeth Adfywio Amlwch – Swyddfeydd Cyngor Tref - Lon Goch – Amlwch – Ynys Mon – LL689EN 01407 832 893 – 839 072 – www.arp-cf.co.uk |
|||